April Jones
Mae Tywysog William wedi ysgrifennu at dimau achub mynydd sydd wedi bod yn chwilio am y ferch 5 oed April Jones ym Machynlleth.

Yn ei lythyr, roedd y Tywysog, sy’n beilot gyda’r Awyrlu yn y Fali, Ynys Môn, wedi canmol y gwirfoddolwyr am eu “dyfalbarhad a’u gwaith caled” wrth chwilio am April, yn ôl adroddiad gan BBC Cymru.

Fe ddiflannodd April Jones ger ei chartref  ym Machynlleth ar 1 Hydref ac mae’r chwilio amdani yn parhau.

Ychwanegodd y Tywysog yn ei lythyr bod achosion fel un April “yn ein hatgoffa o’r hyn mae timau achub mynydd yn ei wneud yn ddyddiol.”

“Rwy’n gwybod eich bod wedi gwneud popeth yn eich gallu i ddod o hyd iddi,” meddai.

Dywedodd Dion Jones, o Ddim Achub Mynydd Aberglaslyn,  wrth y BBC bod y llythyr yn cael ei werthfawrogi.

Mae Mark Bridger, 46, wedi ei gyhuddo o gipio a llofruddio April Jones, ac fe fydd yn mynd gerbron llys ym mis Ionawr.