Mae dyn o Slovakia wedi cael ei gyhuddo o’r llofruddiaeth yn Y Bala nos Sadwrn.

Fe gafodd Julius Hecko ei arestio ar ôl marwolaeth dyn arall o Slovakia, Branislav Gula, 42, yn Stryd y Plasau.

Mae’r dyn 23 oed wedi ymddangos o flaen Llys Ynadon Caernarfon  heddiw.

Fe ddaeth y cyhoeddiad neithiwr gan Heddlu Gogledd Cymru, ond mae arweinydd yr ymchwiliad, y Ditectif Brif Arolygydd, Andrew Williams, yn pwysleisio bod y gwaith yn parhau.

Mae wedi apelio am ragor o dystiolaeth am yr hyn a ddigwyddodd.