Syr Cyril Smith
Roedd cyn Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol Syr Cyril Smith wedi cam-drin bechgyn ifanc, mae AS wedi honni yn Nhy’r Cyffredin heddiw.
Mae cyn AS Rochdale, fu farw ddwy flynedd yn ol, wed ei gysylltu â honiadau ei fod wedi cosbi plant bregus drwy roi chwip din iddyn nhw, yn ôl yr Aelod Seneddol Llafur Simon Danczuk.
Dywedodd bod bechgyn ifanc yn cael eu “bychanu” gan “fwli 29 stôn.”
Mae honiadau tebyg wedi cael eu gwneud yn erbyn Syr Cyril yn y gorffennol.
Mae Simon Danczuk, sydd bellach yn cynrychioli Rochdale, wedi tynnu sylw at achosion o gam-drin merched yn rhywiol gan ddynion Asiaidd yn ei etholaeth.
Fe wnaeth ei honiadau am Syr Cyril yn ystod dadl yn y senedd am ecsbloetio plant yn rhywiol.
Dywedodd bod yn rhaid bod yn “agored” am y “cam-drin eang” sydd wedi digwydd yn Rochdale er mwyn rhoi rhywfaint o urddas yn ôl i ddioddefwyr.
Honnodd Simon Danczuk bod yr awdurdodau yn ymwybodol i’r honiadau bod Syr Cyril, a oedd yn 82 oed pan fu farw, yn targedu plant, ond bod adroddiad i’r honiadau gan Heddlu Swydd Gaerhirfryn wedi diflannu.
Clywodd ASau bod yr honiadau’n ymwneud a chartref preswyl Cambridge House lle cafodd Syr Cyril “rôl ddisgyblu” yn y 1970au.
Mae Simon Danczuk wedi galw am ymchwiliad gan Heddlu Manceinion i’r honiadau.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Swydd Gaerhirfryn nad oes bwriad ganddyn nhw i ymchwilio i’r mater ymhellach gan nad oedd unrhyw honiadau newydd.