Bryn Estyn
Mae Carwyn Jones wedi dweud fod y sylw gafodd achos cam-drin plant gogledd Cymru yn y wasg yr wythnos ddiwethaf wedi “ymylu ar hysteria.”
Wrth ymateb i gwestiwn ar lawr y Senedd dywedodd Carwyn Jones ei fod yn pryderu fod digwyddiadau’r wythnos ddiwethaf yn mynd i annog pobol rhag cyflwyno tystiolaeth newydd ar yr hyn ddigwyddodd yng nghartref gofal Bryn Estyn yn Wrecsam a chartrefi eraill, ac y bydd hi’n anodd cael at y gwir am yr hyn ddigwyddodd.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, ei bod hi’n rhannu ei bryder.
Mae adroddiad anghywir ar raglen Newsnight am gam-drin bechgyn mewn cartrefi gofal yn y gogledd wedi arwain at ymddiswyddiad pennaeth y BBC, George Entwistle, ac at helynt o fewn y gorfforaeth wythnosau ar ôl helynt dros beidio darlledu adroddiad am honiadau o gam-drin yn erbyn Jimmy Savile.
Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru, ei bod hi wedi bod yn fis trist i’r BBC yn dilyn haf llwyddiannus gyda’i darllediadau o’r Gemau Olympaidd.
Ychwanegodd ei bod hi’n “hollbwysig fod ymddiriedaeth yn cael ei hennill mor fuan â phosib, yn enwedig o safbwynt Cymreig gan fod y BBC yn gyfrannwr pwysig wrth ddal y llywodraeth a sefydliadau democrataidd i gyfrif yma yng Nghymru.”