Mae gan Gymru fwy o halen ffyrdd yn barod ar gyfer y gaeaf nag erioed o’r blaen meddai Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant, fod gan Gymru 243,000 o dunelli o halen mewn stoc yng Nghymru,  o gymharu â 137,000 o dunelli ar yr un adeg yn 2010.

Dywedodd Carl Sargeant y bydd Cymru yn “gwbl hunangynhaliol drwy gydol y gaeaf heb orfod ailstocio na chyflwyno mesurau arbed halen.”

“Mae pawb yn gwybod bod hi’n anodd rhagweld tywydd y gaeaf yng Nghymru,” meddai.

“Fe wnaeth y gaeaf diwethaf, a oedd yn weddol fwyn, ddilyn dau aeaf garw gyda chyfuniad o dymheredd isel iawn ac eira yn amharu ar wasanaethau ledled y wlad.

“Mae Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi parhau i gydweithio’n agos drwy gydol y flwyddyn i sicrhau bod digon o stociau halen ar gael ar draws y wlad ar ddechrau tymor cynnal y gaeaf.”

“Wedi paratoi yn dda”

Mae arweiniad a chyngor wedi’u rhoi hefyd i awdurdodau lleol ar ddefnyddio halen yn effeithlon, er mwyn sicrhau bod y dulliau o ddelio â’r amodau yn amserol ac yn gymesur, ac yn gwastraffu cyn lleied â phosibl o halen.

Dywedodd llefarydd Cymdeithas lywodraeth Leol Cymru dros Briffyrdd, Seilwaith a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Anthony Christopher:

“Mae awdurdodau lleol wedi cydweithio ar fater stociau halen ac wedi cytuno y dylai pob awdurdod gadw digon o stoc i ddiwallu ei anghenion ei hun drwy’r gaeaf.

“Credwn ein bod yn dechrau’r gaeaf wedi paratoi yn dda, er bod unrhyw gyfnodau hir o eira yn naturiol yn golygu bod y stociau’n mynd i gael eu defnyddio’n gyflym.

“Mae trafodaethau wedi’u cynnal â phrif gyflenwyr awdurdodau Cymru i sicrhau ailstocio trefnus dros y gaeaf,” meddai Anthony Christopher.