Leighton Andrews
Heddiw, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y grŵp a ddewiswyd i gynghori Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, ar y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.

Mae wyth  wedi cael eu penodi i’r grŵp cynghori. Maen nhw’n cynrychioli amrywiaeth o gefndiroedd ac yn dod ag arbenigedd o wahanol sectorau addysg a hyfforddiant ac o wahanol rannau o Gymru.

Yn ystod y cyfarfod cyntaf, fe fu’r grŵp yn trafod cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar a sgiliau Cymraeg yr ymarferwyr.

“Roedd lansio ein Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn gam mawr ymlaen ar gyfer gosod cyfeiriad strategol i addysg cyfrwng Cymraeg,” meddai’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews.

“Mae aelodau fy ngrŵp cynghori newydd i yn dod â’u profiadau a’u syniadau eu hunain gyda nhw, a fydd yn chware rôl bwysig wrth gynghori ar gynnydd y strategaeth.”

Nod y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, a gafodd ei chyhoeddi yn 2010, yw datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg effeithiol, o’r ysgol feithrin hyd at addysg bellach ac uwch, ac mae iddi gynllun gweithredu manwl a thargedau penodol ar gyfer deilliannau.