Capel Doc Penfro
Mae gwaith ar fin dechrau ar estyniad i adeilad hanesyddol Capel Doc Penfro.

Mae Capel y Garsiwn yn yr hen dre’ forwrol yn mynd i gael ystafelloedd cyfarfod newydd a thoiledau. Fe fydd system wresogi newydd yn cael ei gosod hefyd, yn y gobaith y bydd pobol yn gallu gwneud defnydd ymarferol o’r lle.

Mae’r prosiect i adnewyddu’r capel yn rhan o gynllun adnewyddu trefi Cyngor Sir Penfro, sy’n gobeithio gwneud Penfro a Doc Penfro yn llefydd mwy atyniadol i fuddsoddwyr, siopwyr ac ymwelwyr.

Fe fydd y cynllun gwerth £3.2m yn dechau’n fuan, ac mae disgwyl i’r gwaith fod wedi ei gwblhau erbyn diwedd Mehefin 2013.

Fe gafodd y capel gwreiddiol ei gynllunio gan y pensaer George Ledwell, a’i godi yn y cyfnod 1830-32. Mae wedi ei restru gan Cadw (Gradd II) ac ef yw’r unig gapel Georgaidd, clasurol, ar ôl yn ne Cymru.