Paul Flynn
Mae o leia’ ddeuddeg o ddynion ifanc wedi marw o ganlyniad i gael eu cam-drin tra mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru, yn ôl Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn.

Mae’n dweud hynny ar ôl gweld adroddiad sydd heb ei gyhoeddi eto gan “dri arbenigwr annibynnol ym maes gofal plant”.

Ar ei flog, mae’r gwleidydd yn cyfeirio at y drefn o roi plant mewn cartrefi yn y 1970au a’r 1980au fel un o greulondeb a cham-drin.

“Doedd y rhan fwya’ o’r plant gafodd eu gosod mewn cartrefi preswyl yng Nghlwyd, Gogledd Cymru, yn y 1970au a’r 1980au ddim yn blant drwg, ddim yn droseddwyr, nac yn amhosib eu rheoli.

“Roedden nhw’n ddioddefwyr diniwed o ganlyniad i broblemau domestig, weithiau yn ddim ond pedair neu bum mlwydd oed, a oedd wedi eu cam-drin gan eu teuluoedd eu hunain; neu’n bobol ifanc oedd wedi cael eu gadael yn amddifad.

“Beth oedden nhw ei angen oedd cariad a diogelwch,” meddai Paul Flynn wedyn. “Ond doedd y byd yr aethon nhw i mewn iddo ddim yn hafan ddiogel. Roedd hi’n drefn o greulondeb a cham-drin.”

Yr adroddiad

Yn ôl Paul Flynn, mae’r adroddiad sydd eto i weld golau dydd, yn dweud: “Mae’r hanes o honiadau a cham-drin difrifol o blant gan staff yn wirioneddol warthus o ran pa mor eang yr oedd yn digwydd ar hyd y blynyddoedd”.

Ond y darn mwya’ “damniol”, meddai Paul Flynn, ydi’r rhestr o enwau 12 dyn ifanc sydd wedi marw o ganlyniad i fod mewn gofal.

“Mae’r adroddiad yn dangos mai nid pan oedd y cam-drin yn digwydd y digwyddodd y rhan fwya’ o’r marwolaethau hyn,” meddai, “ond tuag adeg yr ymchwiliad ac achosion llys y dynion a gafwyd yn euog o gam-drin plant yng Nghlwyd.

“Mae’r rhestr yn dadlennu fod 9 o’r 12 wedi marw ar ôl ymchwiliad yr heddlu ac, mewn rhai achosion, wedi i ddynion gael eu cyhuddo. Roedd rhai o’r dynion ifanc wedi gwneud datganiadau a rhoi tystiolaeth.”

Yn ôl blog Paul Flynn, mae’r tim sy’n gyfrifol am yr adroddiad yn dweud ymhellach: “Rydan ni o’r farn na chafodd digon o sylw ei roi i’r straen seicolegol a seiciatrig o ganlyniad i ymddangos yn y llys a rhoi tystiolaeth mewn achosion mor uchel eu proffil.”