I ddathlu penblwydd S4C yn 30 oed fory, bydd Golwg360 yn pori drwy’r archifau i ddewis 30 o raglenni mwyaf eiconig S4C.

Dyma eich cyfle chi i gyfrannu at y drafodaeth, ac i chi rannu eich atgofion am rai o’ch hoff raglenni chi yn ystod y 30 mlynedd ddiwethaf. Byddwn ni’n adolygu rhai o’r rhaglenni yn ystod y dydd.

Enwebwch y rhaglen fwyaf eiconig i ymddangos ar S4C dros y 30 mlynedd diwethaf yn eich barn chi. Gallwch wneud hynny isod.

Y Prif Weithredwr yn dewis ei 10 uchaf

Mae Prif Weithredwr S4C, Ian Jones, wedi rhoi rhestr o’i ddeg hoff raglen yn hanes y sianel i Golwg360. Tybed sawl un o’r rhain fyddwch chi’n eu cofio?

  • Joni Jones
  • Sam Tan
  • Hedd Wyn
  • Alys
  • Rhosyn a Rhith
  • Y Ras yn erbyn Amser
  • Un Nos Olau Leuad
  • Y Byd ar Bedwar
  • Teulu’r Mans
  • Pobol y Cwm