Ian Jones
Mae S4C yn ystyried y posibilrwydd o ddatganoli i dair swyddfa ledled Cymru, yn hytrach nag un prif swyddfa yng Nghaerdydd.

Prif Weithredwr S4C, Ian Jones sydd wedi comisiynu’r astudiaeth er mwyn penderfynu pa mor ymarferol fyddai sefydlu nifer o swyddfeydd y tu allan i’r brifddinas.

Gallai un o’r swyddfeydd fod yn y gorllewin neu’r canolbarth, un yn y de ac un yn y gogledd.

Wrth gyhoeddi’r cynlluniau, dywedodd Ian Jones ei fod yn awyddus i sicrhau bod buddiannau’r sianel yn cael eu rhannu ar draws Cymru.

Mewn datganiad, dywedodd Ian Jones: “Mae S4C eisoes yn ymdrechu’n galed iawn i sicrhau bod arian sy’n cael ei wario ar raglenni yn cael ei wario ym mhob rhan o Gymru.

“Mae astudiaethau wedi dangos bod tua 2,000 o swyddi’n cael eu cynnal gan ein gwaith drwy Gymru, ond dwi’n benderfynol o chwilio am gyfleoedd i wneud rhagor.

“Ar hyn o bryd, mae gan S4C ddau safle – ein pencadlys yn Llanisien yng Nghaerdydd a swyddfa lawer llai yng Nghaernarfon.

“Mae’r trefniant yma’n gweithio’n dda, yn arbennig pan ystyriwch fod dau o’n pump comisiynwyr yn gweithio yng Nghaernarfon.

“Felly gan ein bod yn gwybod ein bod yn gallu gweithio ar ddau safle’n llwyddiannus, pam na ddylid edrych ar bosibiliadau pellach i ddatganoli’n busnes.

“Un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu’n cymunedau drwy Gymru yw diffyg swyddi a chyfleoedd hyfforddi o fewn yr ardaloedd hynny.

“Os yw S4C yn gallu gwneud mwy i ddarparu gwaith lleol mewn mwy o ardaloedd, mae gen i ddiddordeb mawr mewn gweithio tuag at gyflawni hynny.”

CyI – ‘newyddion da’

Mewn ymateb i’r newyddion  dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  “Mae’n newyddion da iawn bod yr awdurdod yn edrych ar hyn o ddifrif. Ers nifer o flynyddoedd, rydyn ni wedi bod yn galw am S4C ‘newydd’, ac un o’n prif alwadau ydy dosbarthu buddsoddiad y sianel yn well ar draws y wlad.

“Byddai hyn yn gallu creu swyddi mewn ardaloedd lle mae gweld cryfhau’r Gymraeg fel iaith gymunedol. Credwn ei fod yn bwysig iddynt ddilyn y trywydd hynny, nid yn unig o ran swyddi mewnol S4C, ond yn ei pholisi comisiynu hefyd, fel bod cyflenwyr bach a chymunedau ledled y wlad yn elwa o’r buddsoddiad.

“Rydym yn galw hefyd am ddatganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu yma i Gymru, fel nad yw cynlluniau i’r BBC gymryd rheolaeth a chyflwyno mwy byth o doriadau i’r cwtogiad sydd eisoes wedi ei gynllunio, yn cael digwydd.”