Mae’r gwrthbleidiau wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am fethu â sicrhau cyllideb ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans.

Maen nhw wedi galw ar y Prif Weinidog neu’r Gweinidog Iechyd i ymyrryd gan honni nad yw’r gwasanaeth yn gwybod faint o arian sydd ganddo ar gyfer y flwyddyn hon.

Yn ôl y Ceidwadwyr, mae peryg fod yr ansicrwydd yn effeithio ar safon y gwasanaeth a’i allu i gwrdd â thargedau ar gyfer galwadau brys.

Galw ar y Llywodraeth

Y saith Bwrdd Iechyd sy’n gyfrifol am roi’r arian ond fe ddywedodd arweinydd y Democratiaid Cymdeithasol yng Nghymru, Kirsty Williams, y dylai’r Prif Weinidog weithredu.

“Mae hyn yn gic yn wyneb staff ar y llinell flaen sy’n gweithio’n galed,” meddai ar Radio Wales. “Dyw hyn ddim yn ffordd i redeg gwasanaeth brys yn yr unfed ganrif ar hugain.

“Dw i’n teimlo’n flin iawn tros reolwyr a staff y gwasanaeth sy’n diodde’ am nad yw pobol yn y llywodraeth yn gwneud i bethau ddigwydd ar eu rhan.”

‘Bygwth ymddiswyddo’

Yn ôl y BBC, mae un aelod o Fwrdd y gwasanaeth ambiwlans wedi bygwth ymddiswyddo oherwydd y problemau.

Ac mae’r llefarydd Ceidwadol am iechyd, Darren Millar, wedi galw ar i’r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, ymyrryd.

“Fe ddylai hi gymryd camau i ddatrys hyn,” meddai. “Hi sy’n gyfrifol yn y pen draw.”