Atomfa bresennol Wylfa
Mae Prif Weinidog Prydain wedi croesawu’r newyddion fod cwmni Japaneaidd Hitachi am fabwysiadu’r cynllun i godi gorsafoedd niwclear newydd, gan gynnwys Wylfa ym Môn.
Yn ôl y disgwyl, fe gyhoeddodd Hitachi eu bod nhw am brynu cynllun Horizon a bwrw ymlaen gyda datblygu’r atomfeydd.
Mae’r pris tua £700 miliwn ac, yn ôl y Llywodraeth yn Llundain, fe fyddai’n golygu creu tua 6,000 o swyddi adeiladu yn ardal Amlwch a 1,000 o swyddi parhaol.
Fe fyddai atomfa newydd debyg yn cael ei chodi yn Oldbury ar draws aber afon Hafren o dde Cymru.
Hyd yma, dyw gwrthwynebwyr ynni niwclear ddim wedi ymateb i’r cyhoeddiad.
Cameron yn canmol
“Mae hyn yn bleidlais o hyder yn y Deyrnas Unedig, tros ddegawdau a sawl biliwn o bunnoedd, meddai Prif Weinidog Prydain, David Cameron.
“Bydd yn cynnal hyd at 12,000 o swyddi yn ystod yr adeiladau a miloedd yn rhagor o swyddi gyda sgiliau mawr pan fydd yn gweithio, yn ogystal â sbarduno buddsoddiadau diwydiannol newydd cyffrous yng nghadwyn gyflenwi niwclear Pyrdain.”
Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, David Jones, fe ddylai’r atomfa yn Wylfa fod yn barod erbyn tua 2022, yn debyg i’r cynllun cynharach. Fe ddywedodd hefyd bod y cynllun yn un diogel.