Y fflat ym Maes y Groes
Fe fydd dynes yn mynd gerbron llys heddiw ar gyhuddiad o bedwar achos o lofruddiaeth ar ôl i bedwar aelod o’r un  teulu farw mewn tân mewn fflat ym Mhrestatyn.

Bu farw Lee-Anna Shiers, 20, ei mab 15 mis oed Charlie, ei nai Bailey, 4, a’i nith Skye, 2, yn y tân ym Maes y Groes yn y dref ar 19 Hydref.

Cafodd Melanie Jane Smith, 42, ei chyhuddo neithiwr o bedwar achos o lofruddiaeth, un achos o gynnau tân gyda’r bwriad o beryglu bywyd, a bygwth achosi difrod troseddol.

Fe fydd yn mynd gerbron llys ynadon Prestatyn bore ma.