Mae dynes 42 oed wedi ei chyhuddo o bedwar achos o lofruddiaeth mewn cysylltiad â thân mewn fflat ym Mhrestatyn dros wythnos yn ôl.

Mae Melanie Jane Smith hefyd wedi ei chyhuddo o gynnau tân yn fwriadol gyda’r bwriad o beryglu bywyd a bygwth achosi difrod troseddol.

Cafodd pedwar aelod o’r un teulu eu lladd yn y tân mewn fflat ym Maes y Groes yn y dref ar Hydref 19. Roedd Lee-Anna Shiers, 20, Bailey Allen, 4, a Skye Allen, 2, wedi marw yn y tân. Fe fu farw Charlie Timbrell, mab 15 mis oed Lee-Anna Shiers,  yn ddiweddarach yn Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl.

Fe fydd Melanie Smith yn mynd gerbron Llys Ynadon Prestatyn bore fory.