Mae nifer o wardiau yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd wedi cau ac mae cleifion yn cael eu hatal rhag cael mynediad i’r wardiau oherwydd nifer o achosion o ddolur rhydd.

Mae ’na gyfyngu ar ymwelwyr ym mhob un o’r wardiau hefyd er mwyn osgoi’r feirws rhag lledu.

Mae’r ysbyty yn cynghori pobl i beidio ag ymweld â chleifion yn yr ysbyty gan y gall rhai fod yn dioddef o’r feirws er nad oes ganddyn nhw symptomau.  Mae’r feirws yn lledu’n hawdd o berson i berson ac yn achosi dolur rhydd a chwydu.

Gall perthnasau ffonio’r ward er mwyn cael gwybod am  gyflwr claf, meddai Bwrdd Iechyd Hywel Dda.