Llifogydd Talybont
Bydd £500,000 yn cael ei roi gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu gyda’r gwaith o adfer cymunedau yn dilyn llifogydd yng Ngheredigion eleni.
Fe fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd er mwyn adfer amddiffynfeydd a gafodd eu difrodi gan y llifogydd.
Cafodd mwy na 1,000 o bobl eu heffeithio gan y llifogydd ym mis Mehefin yn dilyn glaw trwm, a chafodd eiddo ei ddifrodi.
Cafodd rhai wybod na fydden nhw’n gallu mynd adref am chwe mis.
Roedd Aberystwyth a Thalybont ymhlith yr ardaloedd a gafodd eu heffeithio waethaf.
Bydd afonydd lleol hefyd yn cael eu hatgyweirio yn dilyn y buddsoddiad.
Mae’n ymddangos mai maint a chyflymdra llif afonydd achosodd y llifogydd.
Roedd John Griffiths eisoes wedi dweud y byddai £10 miliwn yn cael ei neilltuo rhwng 2013 a 2015 i fynd i’r afael â llifogydd.
Mae’r Cynulliad eisoes wedi neilltuo £150 miliwn ar gyfer llifogydd ers ei sefydlu.