Castell Conwy
Mae wedi bod yn benwythnos prysur yng Nghonwy wrth i ddwy wledd dynnu cannoedd o ymwelwyr i’r dref dros y Sul.

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i’r ddau achlysur gael eu cynnal ar y cyd.

Gwledd Conwy yw gŵyl fwyd fwyaf gogledd Cymru ac mae wedi cael ei chynnal yn flynyddol ers 2004.

Mae’r strydoedd wedi bod yn llawn stondinnau a’r rhan fwyaf yn gwerthu bwydydd a diodydd lleol.

Gŵyl Gelfydddydol Ddigidol ydi ‘blinc’ ac mae nifer o artisitiad wedi bod yn arddangos eu gwaith ar hyd a lled Conwy a thafluniadau wedi bod yn addurno waliau sawl safle yn y dref ers nos Wener.

Eleni mae ‘blinc’ yn cofnodi canmlywddiant y mathemategydd Alan Turing wnaeth cymaint o waith efo’r peiriant datrys codau, yr Enigma, yn ystod yr ail Ryfel Byd.

Oherwydd hyn, mae un o’r tafluniadau wedi bod yn pylsu golau mewn morse code ar rai o waliau’r dref.