Elfyn Llwyd AS
Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Elfyn Llwyd wedi datgan ei gefnogaeth i Winston Roddick, un o’r ymgeiswyr annibynnol am y swydd o Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd yng ngogledd Cymru.

Yn hyn o beth mae wedi mnd yn groes i ddatganiad ei gyd-aelod yn yr etholaeth, Dafydd Elis-Thomas, gyhoeddodd yr wythnos diwethaf ei fod yn cefnogi’r ymgeisydd Llafur, Tal Michael.

Mae Plaid Cymru wedi gwrthod cynnig ymgeiswyr i’r etholiadau gaiff eu cynnal ar 15 Tachwedd ac mae Elfyn Llwyd wedi dadlau yn chwyrn yn erbyn y swyddi yn y gorfffennol am eu bod yn “dod â gwleidyddiaeth i mewn i waith yr heddlu.”

Mae Elfyn Llwyd yn fargyfreithiwr a chanddo ddidodreb penodol mewn cyfraith a threfn. Mewn datganiad cyhoeddus heddiw dywedodd ei fod wedi bwriadu cefnogi unrhyw ymgeisydd o safon oedd yn fodlon sefyll yn annibynnol gan ychwanegu ei fod felly “yn falch o allu datgan ei gefnogaeth i Winston Roddick.”

“Gallaf ddatgan fy nghefnogaeth i Winston Roddick â’m cydwybod yn gwbl dawel,” meddai “gan fy mod yn credu ei fod ben ac ysgwyddau yn well na’r un ymgeisydd arall ac fe fydd ganddo’r fantais hefyd o allu gweithio yn rhydd o unrhyw athrawiaeth wleidyddol. “

“ Mae yna barch mawr iddo yn broffesiynol ac mae pawb sy’n ei adnabod yn cydnabod ei annibyniaeth wrth ei waith.”

Elfyn Llwyd yw’r ail aelod blaenllaw o Blaid Cymru i gefnogi Winston Roddick. Mae Dafydd Wigley eisoes wedi datgan ei gefnogaeth iddo.

Yr ymgeiswyr eraill yng ngogledd Cymru yw Tal Michael (Llafur), Colm McCabe (Ceidwadwr), Richard Hibbs (Annibynnol) a Warwick Nicholson (UKIP)