Hen Goleg, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Llanbed
Mae dyn 22 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod yn rhywiol ar wraig ifanc yn Llanbedr Pont Steffan.

Mae’r dyn yn cael ei holi gan Heddlu Dyfed-Powys yn Aberystwyth ynglŷn â’r ymosodiad a ddigwyddodd ar gampws Prifysgol y Drindod Dewi Sant.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad tua 3.30 y bore ar 23 Hydref ac roedd yr heddlu wedi bod yn chwilio am ddyn ifanc tua 5’7” o daldra.

Roedd wedi cael ei weld yn cerdded o amgylch y dref hefyd y noson gynt.

Mae’r heddlu wedi pwysleisio bod troseddau o’r fath yn anarferol yn yr ardal a champws y Drindod Dewi Sant yw un o’r mwya’ diogel, yn ôl arolygon.