Mae’r mwyafrif helaeth o bobl Prydain yn cefnogi adeiladu rhagor o ffermydd gwynt, yn ol ymchwil gan YouGov.
Dywedodd 55% o’r bobl a gafodd eu holi eu bod nhw am weld rhagor o ffermydd gwynt, tra bod 14% yn hapus gyda’r nifer bresennol.
Yn yr arolwg a gafodd ei gomisiynu gan y Sunday Times, 17% yn unig a oedd yn cefnogi mwy o bwerdai nwy a glo.
Dywedodd y rhan fwyaf mai costau cynyddol tanwydd ffosil sy’n gyfrifol am filiau uwch, ond dywedodd eraill mai targedau allyriadau carbon yw’r rheswm amdanyn nhw.
Mae 40% o boblogaeth Prydain am weld mwy o ynni niwclear yn cael ei gynhyrchu, tra bod 32% yn unig yn cefnogi’r broses o ffracio, sef torri cerrig er mwyn alldynnu nwy siâl o’r ddaear.
Roedd 72% o blaid defnyddio ynni’r haul.
‘Cefnogaeth’
Dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr RenewableUK, Maf Smith: “Mae hwn yn arwydd o hyder digamsyniol mewn ynni adnewyddadwy.
“Mae mwyafrif amlwg o bobl Prydain yn cefnogi adeiladu rhagor o ffermydd gwynt er mwyn ateb anghenion ynni glân ein cenedl.
“Mae’r gefnogaeth honno’n gyson gryf, yn y pôl piniwn hwn ac mewn polau piniwn eraill.
“Un neges gryf sy’n deillio o’r arolwg hwn yw anfodlonrwydd cryf y cyhoedd gyda thanwyddau ffosil, gan gynnwys amhoblogrwydd ffracio am nwy siâl.”
‘Da i ddim’
Ond dywedodd Caroline Evans o Grŵp Ymgyrchu Ardal Fforest Brechfa: “Rhaid i chi feddwl am y niferoedd a gafodd eu holi mewn ardaloedd trefol.
“Fydd pobl sydd yn byw mewn ardaloedd trefol erioed wedi wynebu tyrbinau mawr yn cael eu codi.
“Er enghraifft, yn Lerpwl, mae’r tyrbinau’n 60m o uchder, tra eu bod nhw’n 145 metr yn ardal Brechfa.
“Mae’r polau hyn yn dda i ddim. Yr hyn fydd yn digwydd, wrth i fwy o dyrbinau gael eu codi, yw y bydd rhagor o bobl yn profi pa mor fawr ydyn nhw, a bydd pobl sy’n byw yn eu hymyl nhw yn cael problemau o ran eu codi nhw ac o ran y tirwedd.”