Mi fydd poster arbennig wedi’i gynllunio gan arlunydd dienw yn annog pobol i bleidleisio ‘Ie’ yn y refferendwm ar Fawrth 3.
Er bod cyhoeddwyr y poster yn ei alw yn ‘Banksy Cymru’ am nad yw e eisiau cael ei enwi… efallai y bydd ei arddull yn gyfarwydd i brynwyr llyfrau a chylchgronau Cymraeg.
“Mae e’n licio cadw’i hun at ei hun,” meddai Gareth Butler, cyhoeddiwr y posteri du a gwyn. “Mae e yn hybu’r achos yn dawel bach.”
Mae’r poster yn datgan bod cyfreithiau addysg Alban, Gogledd Iwerddon, Ynys Manaw, Guernsey, Jersey yn cael eu gwneud yn y llefydd hynny ond yn holi ‘… a pha wlad sy’n gwneud Cyfraith Addysg ar gyfer Cymru?’ Mae athrawes yn pwyntio at Lundain gyda’i ffon fesur.
“Y bwriad yw hybu’r achos ymhlith pobol ifanc, ac ym maes addysg yn arbennig,” meddai Gareth Butler, sydd ar bwyllgor yr ymgyrch ‘Ie’ yng Ngheredigion. “Ry’n i’n rhoi’r achos yn blwmp ac yn blaen fod gan Gymru ddim y gryn sydd gan ynysoedd bach fel Guernsey ac Ynys Manaw.”
Mae wedi anfon copi o’r poster at bob coleg yng Nghymru ac mi fydd ar werth mewn siopau llyfrau Cymraeg.