Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi manylion cyngherddau y brifwyl eleni.
Bydd yr Eisteddfod yn cael ei gynnal yn ardal Wrecsam, o 30 Gorffennaf i 6 Awst eleni. Fe fydd tocynnau’r cyngherddau yn mynd ar werth ar 1 Mawrth.
Bydd yr wythnos yn dechrau ar nos Wener 29 Gorffennaf â chyngerdd gan Tri Tenor Cymru, Rhys Meirion, Aled Hall ac Alun Rhys-Jenkins, a’r gantores ifanc, Fflur Wyn, gyda chorau meibion lleol a Chôr Ysgol Morgan Llwyd.
Nos Sadwrn fe fydd Clwyd Theatr Cymru yn perfformio cyngerdd gyda phobl ifanc ardal Wrecsam wedi ei ysbrydoli gan y llyfr ‘Where Children Sleep’ gan James Mollison.
Nos Sul fe fydd y Gymanfa yn y Pafiliwn, dan arweiniad Geraint Roberts, a ddaw’n wreiddiol o ardal Wrecsam. Yr organydd yw Robert Parry.
Nos Lun, bydd rhai o sêr amlycaf y byd roc gan gynnwys Bryn Fôn, Caryl Parry Jones, Huw Chiswell, ac Elin Fflur yn perfformio rhai o glasuron gorau’r byd pop Cymraeg dros y degawdau diwethaf ar noson Clasuron Pop yn y Pafiliwn.
Nod Fawrth fe fydd Wynne Evans, seren hysbyseb boblogaidd Go Compare, Shân Cothi a Llŷr Williams yn perfformio nifer o ddarnau sy’n gysylltiedig â’r Eisteddfod ei hun fel rhan o ddathliadau 150 mlynedd o’r Eisteddfod ar ei ffurf fodern.
Nosweithiau o gystadlu sydd yn y Pafiliwn nos Fercher a nos Wener, ond nos Iau, fe fydd cyngerdd gan Ysgol Glanaethwy, sydd hefyd yn dathlu pen blwydd yn 21 oed eleni.
Eleni, Côr yr Eisteddfod fydd yn cloi’r Brifwyl, ac fe fydd cyfle i fwynhau rhai o glasuron byd opera.
Yr unawdwyr yw Anne Williams-King, Ann Atkinson, Geraint Dodd a David Kempster, gyda Cherddorfa Siambr Cymru.
“Mae nifer fawr o enwau adnabyddus byd adloniant yn mynd i fod yn ymuno gyda ni yn Wrecsam a’r Fro eleni, ac rwy’n gobeithio y bydd yr arlwy sydd gennym yn apelio at ein hymwelwyr rheolaidd ac at y rheini sy’n byw yn nalgylch yr Eisteddfod,” meddai Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol.
“Rydym eisoes wedi derbyn nifer o ymholiadau am docynnau ar gyfer y nosweithiau – a dyw’r tocynnau ddim yn mynd ar werth tan 1 Mawrth, felly mae’n argoeli’n dda ar hyn o bryd.
“Wrth gwrs, mae eleni’n flwyddyn bwysig i’r Eisteddfod Genedlaethol wrth i ni ddathlu 150 mlynedd ar ein ffurf bresennol. Bydd elfennau o’n dathliadau’n rhedeg fel edau drwy nifer fawr o’r nosweithiau, ac yn sicr fe fyddwn yn gobeithio y bydd y rheini sy’n ymuno â ni’n mwynhau’u hunain drwy gydol yr wythnos. ”
Mae tocynnau ar gael i’w archebu ar y we – o www.eisteddfod.org.uk – neu drwy ffonio’r linell docynnau – 0845 4090 800.