Mae pobol leol wedi bod yn sôn am eu dychryn ar ôl i wraig ifanc gael ei lladd a deg o bobol eraill gael eu hanafu gan yrrwr fan yng Nghaerdydd.

Mae enw’r wraig a fu farw wedi cael ei gyhoeddi ar wefannau cymdeithasol – Karina Menzies, 32 oed.

Roedd hi’n un o’r bobol a gafodd ei tharo y tu allan i orsaf dân Trelái, wrth i’r fan wibio o un lle i’r llall yng ngorllewin y ddinas gan yrru ar balmentydd a tharo pobol a phlant.

Fe gafodd tri o oedolion eraill a saith plentyn eu hanafu a’u cludo i Ysbyty’r Brifysgol.

Y digwyddiad


Fan iveco - debyg i'r un yn y digwyddiadau yng Nghaerdydd
Fe gafodd yr heddlu eu galw gynta’ tua hanner awr wedi tri brynhawn ddoe ar ôl digwyddiadau rhwng Gorllewin Heol y Bontfaen, y Rhodfa Fawr a chanolfan siopa yn Lecwydd.

Ymhlith y llygad dystion roedd perchennog siop a welodd ddwy ferch ac oedolyn yn cael eu taro, eiliadau ar ôl prynu nwyddau wrth y cownter.

O fewn ychydig oriau, roedd dyn 31 oed wedi cael ei arestio gan Heddlu De Cymru ar amheuaeth o achosi’r galanas; bellach mae’n cael ei holi ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mae’r fan ynghanol y digwyddiadau – fan wen transit iveco – yn nwylo’r heddlu.

Ymateb Carwyn Jones

Wrth ymateb i’r digwyddiadau, fe ddywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones:

“Mae’r digwyddiadau hyn wedi bod yn sioc fawr imi a dw i’n cydymdeimlo gyda theuluoedd y rhai sydd wedi dioddef.

“Hoffwn ddioclh i bawb o’r gwasanaethau brys sydd wedi mynd i’r afael â chanlyniadau’r digwyddiadau erchyll hyn.”