Protest yn erbyn cau Ysgol y Parc (Llun o wefan Cymdeithas yr Iaith)
Mae Cyngor Gwynedd wedi wfftio beirniadaeth gan ymgyrchwyr yn dilyn ymgynghoriad ar gau Ysgol y Parc.
Dywedodd y cyngor wrth Golwg360 heddiw bod swyddogion “wedi ystyried yr holl sylwadau a gyflwynwyd yn rhan o ymgynghoriad” ar gau yr ysgol ger y Bala.
Daw sylwadau’r Cyngor ar ôl i ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gyhuddo Cyngor Gwynedd o anwybyddu ymatebion i ymgynghoriad cyn penderfynu cau’r ysgol.
Dydd Iau fe fydd Pwyllgor Craffu Addysg y cyngor yn ystyried a ddylid cau Ysgol y Parc ym mis Medi 2012. Daeth ymgynghoriad statudol yn dilyn argymhelliad i gau’r ysgol i ben ar 4 Chwefror.
Dywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ddoe eu bod nhw’n credu fod swyddogion wedi cyfansoddi’r adroddiad cyn diwedd y cyfnod ymgynghori.
Roedd y Gymdeithas wedi dweud ei bod yn “amlwg fod y casgliad wedi’i wneud, a’r rhan fwyaf o’r adroddiad wedi’i sgrifennu, ymhell cyn diwedd y cyfnod ymgynghori” ac wedi codi’r cwestiwn o ‘Beth oedd diben ymgynghoriad o’r fath?”
Ond dywedodd Cyngor Gwynedd wrth Golwg360 y bydd “materion sydd wedi codi o’r ymgynghoriad yn cael eu hystyried gan gynghorwyr mewn cyfarfodydd yn ystod yr wythnosau nesaf.
“Bydd y mater yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc y Cyngor ar 24 Chwefror, Bwrdd y Cyngor ar 15 Mawrth a’r Cyngor llawn ar 12 Mai,” meddai’r llefarydd.