Mae achos yn erbyn dau ddyn sydd wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth wedi dymchwel.

Roedd Peter Smith, 38, o Droed-y-rhiw, Merthyr Tudful a Vincent Harty, 39, o Shoebury wedi eu cyhuddo o ladd Roy Sly yn ei fflat yn Westcliff, Essex.

Ond yn Llys y Goron Chelmsford ddoe, roedd y barnwr wedi gollwng y rheithgor ac wedi pennu dyddiad ar gyfer ail achos ar 19 Tachwedd.

Cafwyd hyd i gorff Roy Sly, 53, yn ei fflat ar 10 Ionawr eleni.

Mae Smith a Harty yn gwadu ei lofruddio rhwng 8 a 10 Ionawr.