Michael Gregory
Mae dyn a gafodd ei fygwth gan ladron â chyllyll tra roedd yn eistedd yn ei gadair olwyn wedi  apelio am wybodaeth i helpu’r heddlu.

Roedd Michael Gregory, sy’n dioddef o Multiple Sclerosis, yn teithio ar lan yr afon Wysg yng Nghasnewydd ar Fedi 12 pan ddaeth dau ddyn ar gefn beics ato a dal cyllell i’w wddf, a’i orfodi i roi arian iddyn nhw.

Fis ers y digwyddiad mae’r ddau ddyn yn dal yn rhydd ac mae Michael Gregory wedi apelio unwaith eto am wybodaeth i’w dal nhw.

“Rwy’n teimlo ‘mod i wedi colli a’u bod nhw wedi ennill,” meddai.

“Ges i fraw a dwi ddim wedi cael diwrnod da ers hynny.”

Mae’r heddlu yn chwilio am ddau ddyn Asiaidd yn eu hugeiniau, y ddau tua 5 troedfedd 8 modfedd ac yn gwisgo tracwisg lwyd ar y pryd. Roedd logo Nike ar grys un ohonyn nhw.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Ian Roberts fod y drosedd yn un “ffiaidd a llwfr” ac apeliodd ar bobol sydd â gwybodaeth i ffonio Heddlu Gwent ar 101, neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.