Winston Roddick
Mae bargyfreithiwr blaenllaw o Gaernarfon wedi cyhoeddi ei fod yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn yr etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu ar gyfer Gogledd Cymru.
Winston Roddick oedd Cwnsler Cyffredinol cyntaf Cymru, sef prif gynghorydd cyfreithiol y Cynulliad, a dywedodd ei fod wedi penderfynu sefyll am ei fod yn credu “bod angen Comisiynydd Heddlu yng Ngogledd Cymru fydd yn gallu gwneud penderfyniadau heb unrhyw ymyrraeth wleidyddol.”
“Dwi’n credu’n gryf na all unrhyw gymdeithas wâr fodoli heb wasanaeth heddlu sy’n atebol i’r cyhoedd ond sy’n annibynnol o bleidiau gwleidyddol,” meddai Winston Roddick, cyn iddo gyhoeddi’n ffurfiol ei fwriad i sefyll mewn cyfarfod heno yng Nghaernarfon.
Mae swyddi newydd y comisiynwyr heddlu a throsedd wedi bod yn rhai dadleuol, ac mae Plaid Cymru wedi gwrthod cynnig ymgeiswyr gan ddweud fod yr etholiadau yn dod â gwleidyddiaeth i mewn i waith yr heddlu.
‘Toriadau trychinebus’
Dechreuodd Winston Roddick ei yrfa yn blismon yn Lerpwl a dywedodd ei fod am weld troseddwyr yn cael eu “dedfrydu’n gadarn ac yn effeithiol,” a’i fod yn gwrthwynebu preifateiddio gwaith yr heddlu.
“Mae angen i ni amddiffyn yr heddlu rhag toriadau trychinebus y llywodraeth,” ychwanegodd hefyd.
Mae tri arall wedi datgan eu bwriad i sefyll yn yr etholiad ar gyfer swydd Comisiynydd y gogledd – Tal Michael – mab Prif Ysgrifennydd cyntaf Cymru Alun Michael – ar ran y Blaid Lafur, Derek Barker o’r Ceidwadwyr a Richard Hibbs, sy’n ymgeisydd annibynnol.
Mae’r etholiadau yn cael eu cynnal ar Dachwedd 15.