Mae undebau athrawon wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth Cymru i newid y modd o asesu TGAU Saesneg ar ôl i’r tymor ddechrau.

Y prif newid fydd rhoi mwy o bwyslais ar asesu allanol yn hytrach nag asesu yn yr ysgolion – o 40% o’r marciau i 60%.

Dywedodd Rebecca Williams o UCAC fod yr undeb yn “bryderus iawn, iawn” fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu rhoi mwy o bwyslais ar yr arholiad llafar yn y TGAU Saesneg ar gyfer disgyblion blwyddyn 10 a fydd yn derbyn TGAU yn 2014 ac sydd eisoes wedi dechrau ar eu cwrs.

Mae undebau NUT Cymru a NASUWT hefyd wedi beirniadu’r newidiadau.

‘Anarferol’

“Mae’n hynod anarferol i reoleiddiwr addysg wneud newidiadau ar ôl i gwrs ddechrau,” meddai Rebecca Williams, swyddog polisi gydag UCAC.

“Y confensiwn arferol yw bod athrawon yn cael tymor o rybudd o leiaf cyn cyflwyno newidiadau i gwrs.

“Rhaid i’n haelodau ni fyw gyda hyn nawr ac fe fyddan nhw’n broffesiynol am y mater, ond hoffai UCAC weld adolygiad o’r system reoleiddio cymwysterau.

“Llywodraeth Cymru sy’n barnu ac yn gosod y drefn, a hoffen ni weld corff sydd hyd-braich wrth y llywodraeth yn rheoleiddio addysg yng Nghymru.

“Nid ydyn ni’n galw o reidrwydd am system debyg i’r hyn sydd gyda nhw yn Lloegr gan fod Ofqual wedi bod yn drwm dan ddylanwad y llywodraeth yno, ond mae angen edrych ar systemau mewn gwledydd eraill megis yr hyn sydd gyda nhw yn yr Alban.”

Ail-raddio

Mae TGAU Saesneg wedi bod yn bwnc llosg ers diwedd Awst ar ôl i Weinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, orchymyn ail-raddio arholiadau disgyblion Cymru, penderfyniad a gafodd ei feirniadu’n hallt gan Michael Gove, yr Ysgrifennydd Addysg yn Llundain.

Mae Michael Gove wedi datgan ei fwriad i gael gwared ar TGAU a chyflwyno cymwysterau tebyg i’r hen Lefel O a fydd yn rhoi mwy o bwyslais ar arholiadau yn hytrach na gwaith cwrs, ond nid yw hi’n eglur a fydd Cymru yn dilyn yr un trywydd.