Mae rhai pobol sy’n berchen ar gartrefi symudol yn cael eu bwlio gan berchnogion y safle, medd arolwg gan gorff sy’n cynrychioli hawliau defnyddwyr a chwsmeriaid.
Yn ôl Llais Defnyddwyr Cymru mae 41% o berchnogion cartrefi symudol yn dweud bod perchennog y safle yn eu hatal nhw rhag gwerthu’r garafán, tra bod eraill yn cwyno eu bod nhw’n codi rhent sy’n afresymol.
Mae tua 5,000 o bobol yn byw mewn cartrefi symudol yng Nghymru ac maen nhw wedi dod yn ddewis poblogaidd gan bobol sydd wedi ymddeol ac ar incwm isel.
Yn arferol mae person yn prynu’r cartref symudol ond mae’r tir ble saif y garafán yn eiddo i weithredwr y safle, ac mae perchennog y cartref symudol yn gorfod talu rhent. Mae gan berchennog y safle’r grym i atal y garafán rhag cael ei gwerthu i berson arall.
Cafodd 264 o drigolion cartrefi symudol eu holi fel rhan o’r arolwg ac mae Llais Defnyddwyr Cymru yn galw am ddiwygio’r broses werthu.
‘Angen cosbi gweithredwyr safle diegwyddor’
Bydd Bil Cartrefi Symudol yn cael ei gyflwyno gerbron y Cynulliad gan Peter Black AC, a dywedodd Rhys Evans, uwch-gyfarwyddwr Llais Defnyddwyr Cymru, y gallai wneud gwahaniaeth i fywydau miloedd o bobol.
“Mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod bygythiad atal gwerthiant yn effeithio ar drigolion cartrefi mewn parciau ledled Cymru, ac mae’n rhaid cael gwared ar hyn trwy gael gwared ar feto gweithredwr y safle ar werthiannau cartrefi mewn parciau,” meddai Rhys Evans.
“Rydym hefyd yn gryf o blaid cyflwyno prawf unigolyn addas a phriodol, a hoffem weld cynigion i roi’r gallu i awdurdodau lleol wneud eu gwaith.
“Hoffem i unrhyw Fil newydd oresgyn y rhwystrau presennol sy’n atal sefydliadau rhag cymryd camau gorfodi effeithiol. Mae angen i unrhyw drefn orfodi newydd fod yn ddeinamig ac yn gadarn a meddu ar y pwerau cyfreithiol i gosbi gweithredwyr safle diegwyddor, i amddiffyn trigolion ac i gynnig mwy o gymhelliad i godi safonau’r diwydiant.
“Rydym yn gwybod bod llawer o drigolion sydd wedi cael problemau yn y gorffennol ddim yn gwybod ble i droi am help. Felly rydym yn galw am ddarparu canllawiau mwy eglur a rhagor o wybodaeth i drigolion, gweithredwyr safleoedd ac awdurdodau lleol.”