Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ceisio gwneud trefniadau ar gyfer disgyblion Ysgol Uwchradd Cwmcarn ar ôl i’r ysgol gau pnawn dydd Gwener pan gafodd asbestos ei ddarganfod yn yr adeilad.
Mae’r cyngor yn cydweithio gyda’r gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus er mwyn ceisio darganfod tarddiad yr asbestos. Dywed y cyngor eu bod yn disgwyl ymateb o fewn 24 awr.
Yn y cyfamser mae’r cyngor wedi bod yn cwrdd â swyddogion addysg a llywodraethwyr i geisio dod o hyd i leoliad arall ar gyfer y 900 o ddisgyblion yn yr ysgol, ond dywed y cyngor ei fod yn annhebygol y byddan nhw’n llwyddo i wneud hynny’r wythnos hon.
Mae pob ymdrech yn cael ei wneud i ddod o hyd i leoliad newydd ac mae disgyblion blwyddyn 11, 12 ac 13 yn flaenoriaeth, medd y cyngor mewn datganiad.
Mae’r cyngor yn cydnabod bod “y sefyllfa yn anghyfleus ond mae iechyd a lles disgyblion a staff yn flaenoriaeth i ni.”