Eric Driver
Mae dyn 46 oed o Gaergybi a fu ar goll wedi cael ei ddarganfod yn farw.

Cafodd corff Eric Owen Driver ei ddarganfod ar draeth Penrhos ddydd Gwener a dywedodd Heddlu Gogledd Cymru nad ydyn nhw’n trin yr achos fel un amheus.

Mae archwiliad post mortem wedi cael ei gynnal ac mae’r crwner wedi cael ei hysbysu.

Roedd y tad i ddau wedi bod ar goll ers 5 Hydref.