Cafodd diffoddwyr tân eu galw am 11 y bore ma i ddelio gyda thân yng nghegin Ysgol Carmel ger Caernarfon.

Roedd padell ffrio sglodion wedi mynd ar dân ac roedd wedi cael ei ddiffodd erbyn i’r frigâd dân ac ambiwlans gyrraedd yr ysgol.

Cafodd plant yr ysgol eu harwain o’r adeilad er eu diogelwch. Dywedodd swyddog o’r ysgol na fu difrod a bod y plant yn ôl wrth eu gwersi bellach.