Bydd glanhawyr, portars a chogyddion ymysg staff prifysgolion fydd yn streicio dros gyflogau.

Cafwyd pleidlais o blaid y streic yn dilyn cynnig o 1% o godiad cyflog, yn dilyn pedair blynedd o godiadau is-na-chwyddiant.

Yn ôl yr undeb Unite roedd hyn yn golygu bod staff ar gyflogau isel yn derbyn 10% yn llai o dâl mewn termau go-iawn.

“Ers pedair blynedd mae gweithwyr sefydliadau addysg uwch wedi gorfod dal ati gyda chodiadau cyflog is-na-chwyddiant, tra bo penaethiaid wedi derbyn gwell cyflogau,” meddai Mike Robinson o Unite.

“Dyma frwydr am chwarae teg, ac mae’n rhaid i benaethiaid prifysgolion dynnu eu pennau o’r tywod a gwrando ar bryderon gweithwyr sy’n ei chael hi’n anodd.”

Roedd 1,668 o blaid streicio a 967 yn erbyn, sef graddfa 2:1, ac mae’n bosib y daw’r gweithredu o fewn y mis nesaf.