Hywel Gwynfryn
Fe fydd y darlledwr adnabyddus Hywel Gwynfryn yn sôn am y profiadau trist yn ei ieuenctid mewn rhaglen ar S4C heno.
Yn ystod cyfweliad, mae’r darlledwr o Ynys Môn yn agor y llen ar ei fagwraeth anodd – hunanladdiad ei dad, ei berthynas gymhleth a’i fam, a’i deimladau cryfion ar ôl eu colli.
Pan oedd Hywel yn ŵr ifanc, roedd ei dad wedi cyflawni hunan laddiad. Roedd ei berthynas â’i fam yn un cymhleth ac anodd hefyd, yn rhannol am ei bod yn dioddef o iselder ysbryd.
“Dwi ddim yn credu bod yr awyrgylch yn y cartref yn awyrgylch gariadus iawn. Roeddwn i’n teimlo fy mod yn cael mwy o gariad pan oeddwn i’n mynd i dai pobl eraill,” meddai Hywel yn y rhaglen 3 Lle.
‘Tyndra’
“Roedd yna resymau am hyn. Roedd fy nhad wedi cael lot fawr o salwch pan oedd ar y môr. Roedd fy mam wedi cael problemau hefo iselder ysbryd ac roedd yna dyndra rhwng y ddau ac roeddwn i’n teimlo fy mod yng nghanol y tyndra hwn.”
“Mi gollais i fy nhad mewn ffordd anffodus iawn. Mi wnaeth o ladd ei hun ac, wrth gwrs, mi oedd o’n sioc enfawr. Y cwestiwn oedd rhywun yn ei ofyn oedd ‘Pam?’ Beth oedd wedi digwydd neu beth oeddan ni wedi ei wneud i achosi hynny’.”
Mae Hywel, sy’n dal yn cyflwyno ar BBC Radio Cymru, yn datgelu ei deimladau dyfnaf am ei berthynas gyda’i fam.
Meddai, “Doeddwn i ddim yn dod ymlaen yn dda hefo fy mam i fod yn berffaith onest, ond hi dwi’n ei cholli fwyaf. Pan dwi’n siarad am mam, dyna pryd dwi’n teimlo’n fwya’ emosiynol. Y rheswm am hyn efallai yw y buaswn i wedi hoffi gallu ei helpu hi. Ond rŵan mae’n rhy hwyr ac wedi bod yn rhy hwyr ers blynyddoedd.”
Bydd 3 Lle yn cael ei darlledu ar S4C heno am 8.25pm.