Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i lofruddiaeth dyn 52 oed gafodd ei ddarganfod mewn tŷ yn ardal Nottage ym Mhorthcawl ddoe.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r tŷ yn Nottage Meadows tua 12.20yb ddydd Sul. Maen nhw’n trin ei farwolaeth fel achos o lofruddiaeth.

Mae dyn 23 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r llofruddiaeth yn cael yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i’w ffonio ar 01656 306099 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.