Mark Bridger
Fe fydd cyn achubwr bywyd yn mynd gerbron ynadon Aberystwyth heddiw i gael ei gyhuddo’n ffurfiol o lofruddiaeth April Jones.

Mae Mark Bridger, 46, wedi ei gyhuddo o lofruddio’r ferch fach 5 oed, o’i chipio ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cafodd Mark Bridger ei gyhuddo o lofruddio April ddydd Sadwrn ar ôl cael ei holi am bedwar diwrnod.

Roedd yn byw ddiwetha’ yn ardal Ceinws ac Esgairgeiliog ychydig filltiroedd o dre’ Machynlleth lle cafodd April ei chipio wythnos yn ôl.

Cafodd April ei gweld y tro diwethaf yn chwarae ar ei beic ar stad Bryn-y-Gog tua 7yh nos Lun diwethaf. Cafodd ei gweld yn mynd i mewn i fan.

Er gwaethaf ymdrechion gan dimau arbenigol o swyddogion heddlu yn ogystal â chynrychiolwyr o’r gwasanaethau brys eraill a thimau achub mynydd, dyw ei chorff dal heb gael ei ddarganfod. Mae timau achub mynydd bellach wedi rhoi’r gorau i’r chwilio gan ddweud fod y gwaith yn fwy addas erbyn hyn ar gyfer timau arbenigol yr heddlu.


April Jones
‘Cyffwrdd calonnau pobl ar draws y byd’

Ddoe, daeth mwy na 700 o bobl i Eglwys San Pedr ym Machynlleth ar gyfer gwasanaeth emosiynol i gofio’r ferch ysgol.

Bu’r Parchedig Kathleen Rogers yn rhoi teyrnged i’r gymuned oedd wedi tynnu at ei gilydd i chwilio am April, a dywedodd Esgob Bangor y Gwir Barchedig Andy John bod y gymuned “wedi cyffwrdd calonnau pobl ar draws y byd.”

Mae disgwyl tyrfaoedd o bobol gyffredin a newyddiadurwyr yn llys ynadon Aberystwyth heddiw ar gyfer y gwrandawiad cychwynnol.