Mark Bridger
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi prynhawn ma eu bod wedi cyhuddo Mark Bridger o lofruddio’r ferch 5 oed April Jones.

Mae’r dyn 46 oed, sy’n byw’n lleol, hefyd wedi ei gyhuddo o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder ac o gipio plentyn.

Fe fydd yn mynd gerbron ynadon Aberystwyth fore dydd Llun.

Cafodd yr heddlu 24 awr ychwanegol i holi Mark Bridger, 46, neithiwr ac roedd yn rhaid iddyn nhw benderfynu a fyddan nhw’n ei gyhuddo neu ei ryddhau cyn 5 o’r gloch heddiw.

Mewn cynhadledd newyddion prynhawn ma, dywedodd Iwan Jenkins ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron ei fod wedi adolygu’r dystiolaeth sydd wedi dod i law’r heddlu a’i fod yn credu bod digon o dystiolaeth i gyhuddo Mark Bridger o lofruddio April Jones, o gipio plentyn ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.


April Jones
‘Y chwilio’n parhau’

Fe ddiflanodd April Jones tua 7yh nos Lun, 1 Hydref wrth iddi chwarae ar ei beic tu allan i’w chartref ar stad Bryn-y-Gog. Er gwaethaf ymdrechion cannoedd o wirfoddolwyr a thimau achub, does neb wedi llwyddo i ddod o hyd iddi hyd yn hyn.

Ond dywedodd yr heddlu, er gwaetha’r cyhoeddiad heddiw, bod y chwilio yn parhau ac na fyddan nhw’n rhoi’r gorau iddi nes eu bod yn dod o hyd i April. Mae timau arbenigol wedi bod yn canolbwyntio’r  chwilio ar Afon Dyfi unwaith eto prynhawn ma.

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys, Jackie Roberts, bod eu meddyliau yn parhau gyda theulu April Jones. Bu hefyd yn rhoi teyrnged i’r timau achub a’r cannoedd o wirfoddolwyr sydd wedi bod yn chwilio’n ddiflino am y ferch 5 oed ers iddi ddiflannu nos Lun.