Mistar Meuryn
Bydd y Talwrn benywaidd cyntaf erioed yn cael ei gynnal ym Mangor nos fory.
Dim ond merched yw’r beirdd a fydd yn cystadlu yn ‘Nhalwrn y Merched’ yng Ngaffi Blue Sky ar y Stryd Fawr… ond mae’r trefnwyr yn pwysleisio bod croeso i ddynion yn y gynulleidfa.
Mae’r noson yn rhan o ddigwyddiadau ‘Cynhadledd y Ferch Greadigol’ sy’n cael ei chynnal dros y penwythnos yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor.
Capteiniaid y ddau dim fydd y Prifardd Mererid Hopwood, Karen Owen a Mari George. “Maen nhw i gyd wedi bod yn reit frwd,” meddai Manon Wyn Williams, un o drefnwyr y gynhadledd. “Rydan ni ddim yn ymwybodol ei fod wedi cael ei wneud o’r blaen. Roedd yn bosib cael llwyth o ferched creadigol gyda’i gilydd o dan yr unto o fewn Talwrn i gynnal noson eu hunain.”
Dyn fydd yn eu marcio, serch hynny – sef Meuryn Talwrn y Beirdd Radio Cymru, Ceri Wyn Jones. Ymhlith ei destunau gosod mae ‘Golchi Llestri’ a cherdd am golli cariad. “Mae o eisiau cael dipyn o ffrae dw i’n meddwl,” meddai.
Yn ystod y gynhadledd, bydd sawl arbenigwr yn sgwrsio ar hanes a gwaith merched creadigol Cymru, yn llenorion, cyfansoddwyr a cherddorion. Ynghyd â hynny, bydd Gwyneth Glyn yn cyflwyno sesiwn ar y dydd Sul, yn canu cân neu ddwy ac yn darllen ambell i gerdd, ac wedyn bydd sgwrs rhyngddi hi a’r cyfansoddwr Guto Puw ar drosi drama Y Tŵr yn opera.
Mae croeso i’r cyhoedd yn y gynhadledd. “Dw i’n ymwybodol ar amryw o draethodau ymchwil sy’n canolbwyntio ar waith merched, a dim ond eisiau rhoi llwyfan a llais i’r rheiny ydan ni mewn gwirionedd,” meddai Manon Wyn Williams, “yn enwedig mewn byd cerddoriaeth ac yn y blaen lle mae llawer o sôn am waith dynion. Eisie rhoi llais i’r merched creadigol ydan ni.”
***
Rhaglen ‘Y Ferch Greadigol’
Dydd Sadwrn, Hydref 6
9.00 – 10.30 Sesiwn 1
Leila Salisbury: Llais y Ferch yng Nghymru’r G19: Mair Richards Darowen a chasglu alawon gwerin
Elain Wyn Jones: Merched y Ceinciau
Graeme Cotterill: Ffurf penillion yng ngherddoriaeth Grace Williams
11:00 – 12.30 Sesiwn 2
Carys Lake: Y daith i ail iaith
Shan Robinson: Archif Menywod Cymru
Manon Wyn Williams: Stori: ‘Safwn yn y bwlch’
1:30 – 2:30: Siaradwraig wadd: Dr Rhiannon Mathias:
Tair merch greadigol yng ngherddoriaeth Prydain yr ugeinfed ganrif:
Elisabeth Lutyens (1906–83), Elizabeth Maconchy (1907–94) a Grace Williams (1906–77)
3:00 – 4:30: Sesiwn 3
Gwawr Jones: Clara Novello Davies
Gwawr Ifan: Juliette Alvin
Elen ap Robert: Pontio
7.30 – Talwrn y Merched Caffi Blue Sky, Bangor, Stryd Fawr Bangor
Meuryn: Y Prifardd Ceri Wyn Jones
Dydd Sul, Hydref 7
9:30-10:30: Sesiwn 4
Bethan Jones Parry: DNA a Mab y Dyn – themau gwyddonol a chrefyddol yng ngwaith Gwyneth Lewis
Angharad Watkins: Moelona, Jane Edwards a Sonia Edwards: Y nofel ddomestig Gymraeg mewn tair cenhedlaeth
11:00-12:30 Sesiwn 5
Menna Machreth: Angharad Tomos
Gwen Saunders Jones: Codi cwr y llen: Barddoniaeth Gymraeg gan ferched y cyfnod modern cynnar
Diane Jones: Kate Roberts
1:30-2:30 Siaradwraig wadd: Gwyneth Glyn
Bydd Gwyneth yn trafod ei gwaith fel bardd, llenor a chyfansoddwraig
3:00-4:30 Sesiwn 6
Craig Owen Jones: Y Ferch Greadigol A Rhywiaeth Yn Y Byd Pop Cymraeg Yn Y 1960au A’r 1970au
Owain Llwyd: Y ferch y myd cyfansoddi ffilm
Sioned Webb: Hwiangerddi Cymru (cyflwyniad). Perfformiad hefyd gan Arfon Gwilym