Mae dynes a gafodd driniaeth mewn ysbyty am gyflwr gynaecolegol wedi derbyn iawndal o £3,250, ac mae bwrdd iechyd wedi ymddiheuro yn dilyn cyfres o gamgymeriadau difrifol.

Penderfynodd yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru, Peter Tyndall, fod Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin wedi methu â rheoli’r gofal a gafodd ei roi i’r ddynes sy’n cael ei hadnabod fel Miss F.

Roedd hi’n derbyn triniaeth i gael gwared ar syst o’r ofari, ond daeth meddygon o hyd i endometriosis.

Penderfynodd meddygon y byddai’n rhaid iddi gael llawdriniaeth arall.

Fis Medi diwethaf, roedd y driniaeth eisoes wedi dechrau pan gafodd ei gohirio, a dioddefodd Miss F drawma, risg a gofid o’r herwydd.

Doedd y llawfeddyg ddim ar gael i wneud y llawdriniaeth ac roedd y llawfeddyg wrth gefn yn teimlo bod angen cwblhau’r driniaeth mewn adran arbenigol.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi derbyn canlyniadau adroddiad yr Ombwdsmon, ac fe fydd yn talu iawndal iddi.

Dywedodd yr Ombwdsmon na ddylai’r meddygon fod wedi parhau â’r driniaeth.

Cafodd ymdrechion eu gwneud i drosglwyddo Miss F i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ond roedd y trosglwyddiad yn aflwyddiannus.

Doedd ganddi ddim triniaeth ddigonol erbyn hyn.

Gwnaeth ei mam gŵyn i’r Bwrdd Iechyd, ond roedden nhw’n araf yn ymateb, a’r ymateb hwnnw yn y pen draw yn annigonol, medd yr Ombwdsmon.

Dywedodd yr Ombwdsmon fod Miss F wedi dioddef yn gorfforol ac yn seicolegol oherwydd y camgymeriadau.