Mae Heddlu De Cymru wedi apelio am dystion ar ôl i gar BMW 3 daro yn erbyn arosfa bws a choeden yng Nghaerdydd yn oriau mân y bore yma.

Digwyddodd y ddamwain i gyfeiriad y gogledd rhwng Rhodfa Lloyd George a Stryd Tyndall am 12.45am.

Roedd dyn 36 oed wedi mynd yn sownd yn y cerbyd, a bu’n rhaid i’r gwasanaeth tân ei ryddhau.

Aed ag ef i Ysbyty Athrofaol Caerdydd gydag anafiadau difrifol i’w ben.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101 neu 029 2022 2111, estyniad 42333.