Mae yna oedi ar draffordd yr M4 wedi damwain ddifrifol ger cyffordd 43 ym Mhort Talbot.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw am 7.44am ar ôl i Land Rover Discovery droi drosodd.

Aed â’r gyrrwr i Ysbyty Treforys, lle mae e’n cael triniaeth am anafiadau difrifol.

Cafodd dwy lôn eu cau yn dilyn y digwyddiad, ac mae yna dagfeydd rhwng cyffordd 43 Llandarsi a chyffordd 47 Penllergaer.