Jane Hutt
Fe fydd y Llywodraeth Lafur yn trafod gyda phob un o’r gwrthbleidiau er mwyn ceisio cael cefnogaeth i’w Chyllideb – gan gynnwys y Ceidwadwyr.

Fe bwysleisiodd y Gweinidog Ariannol, Jane Hutt, y byddai’n cynnwys y Torïaid yn y trafodaethau – mae’n rhaid i Lafur gael o leia’ un bleidlais ychwanegol er mwyn pasio’r Gyllideb.

Fe fydd y trafodaethau’n golygu bargeinio tros rai o hoff bolisïau’r pleidiau eraill, er mai ychydig iawn o ryddid sydd yna oddi mewn i’r ffigurau ariannol tynn.

Mae Plaid Cymru’n pwysleisio gwario ar yr economi, y Democratiaid Rhyddfrydol eisiau rhagor o wario ar addysg a’r Ceidwadwyr eisiau gwario ar iechyd.

Cynnwys y Ceidwadwyr

Fe ddywedodd Jane Hutt wrth Radio Wales heddiw fod y Gyllideb yn cynnwys elfennau ar gyfer y cyfan.

“Fydda’ i ddim yn hepgor y Ceidwadwyr,” meddai, “achos r’yn ni’n cefnogi iechyd hefyd.”