Mae’r gystadleuaeth i reoli gwasanaeth trenau West Coast, sy’n cynnal gwasanaeth rhwng Caergybi a Llundain, wedi cael ei chanslo oherwydd “problemau mawr”  yn y broses dendro.

Daeth y cyhoeddiad heddiw gan yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn San Steffan, Patrick McLoughlin.

Fe fydd y gystadleuaeth bellach yn ail-agor ac mae’r Blaid Lafur wedi galw’r datblygiadau diweddara yn “ffiasgo”.

Roedd disgwyl i FirstGroup gynnal y gwasanaeth rhwng Llundain a’r Alban am 13 blynedd o fis Rhagfyr, ond roedd Virgin Rail, y cwmni sy’n rheoli’r gwasanaeth ar hyn o bryd, wedi cyflwyno her gyfreithiol yn yr Uchel Lys yn dilyn y penderfyniad. Roedd Syr Richard Branson wedi dweud ar y pryd bod y penderfyniad yn “wallgof.”

Tro pedol

Roedd yr Adran Drafnidiaeth wedi bwriadu herio’r achos yn y llys ond heddiw, bu’n rhaid i’r Llywodraeth wneud tro pedol  wrth i Patrick McLoughlin ddweud ei fod yn canslo’r gystadleuaeth oherwydd “problemau anffodus ac anerbyniol” gan ei adran yn y ffordd y cafodd y broses ei reoli.

Fe fydd dau adolygiad annibynnol yn cael eu cynnal i’r broses dendro, yn ôl Patrick McLoughlin ac mae disgwyl cyhoeddiad yn ddiweddarach heddiw ynglŷn â gwahardd rhai o staff y Llywodraeth tra bod yr ymchwiliad yn yr adran yn parhau.

Mae Richard Branson wedi croesawu’r penderfyniad ac wedi dweud ei fod yn obeithiol y bydd Virgin yn parhau i gynnal y gwasanaeth fel mae wedi bod yn gwneud ers 1997.

Ond mae First Group wedi dweud eu bod yn “siomedig iawn” ynglŷn â’r penderfyniad.

Mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth wedi sicrhau teithwyr y bydd  gwasanaeth trenau West Coast yn parhau i gael ei gynnal ac y bydd y gystadleuaeth yn ail-ddechrau cyn gynted ag y bydd “gwersi wedi cael eu dysgu o’r digwyddiad yma”.