Streic yn effeithio ar Abertawe
Bydd cryn oedi yn Abertawe heddiw, wrth i gwmni bysiau First Cymru gynnal streic undydd.

Mae gweithwyr y cwmni’n cynnal streic i brotestio yn erbyn eu cyflog wedi i undeb Uno’r Undeb wrthod dau gynnig blaenorol.

Mae’r cwmni’n gyfrifol am wasanaethau yn Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg, Port Talbot, Castell-nedd, Llanelli, Caerfyrddin a de Sir Benfro, yn ogystal â gwasanaeth Greyhound rhwng Abertawe a Chaerdydd.

Mae rhai gweithwyr yn Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr wedi penderfynu gweithio fel arfer, a mynd yn groes i streic y cwmni.

Dydy bysiau ysgol ddim wedi cael eu heffeithio a bydd trefniadau’n cael eu gwneud ar gyfer plant ysgol sy’n teithio ar fysiau’r cwmni gyda thrwydded.

Mae trefniadau brys yn eu lle mewn nifer o ardaloedd.