Alicia Williams a David Platt - mae'r llun wedi ei gymryd o Facebook
Mae’r heddlu’n ymchwilio i’r posibilrwydd fod cwpwl a gafodd eu canfod wedi marw yn afon Clywedog wedi boddi wrth geisio achub eu ci.

Cafodd corff dynes, 27, ei darganfod ar lannau’r afon toc wedi 5 o’r gloch neithiwr ac yn ddiweddarach y bore ma cafodd corff dyn 25 oed ei ddarganfod yn yr afon.

Dydyn nhw ddim wedi cael eu hadnabod yn ffurfiol eto ond mae’n debyg eu bod nhw’n gwpwl o’r ardal, ac maen nhw wedi cael eu henwi’n lleol fel Alicia Williams a David Platt.

Dywed yr heddlu bod tystion wedi gweld y ddau yn cerdded wrth yr afon yn ystod y dydd gyda’u cŵn.

Mae’r heddlu wedi dweud nad ydyn nhw’n gwybod eto sut y bu’r ddau farw.

Mae lefel afon Clywedog wedi bod yn uwch na’r arfer yn dilyn glaw trwm a llifogydd sydd wedi effeithio ar rannau helaeth o ogledd Cymru yn y dyddiau diwethaf.

Mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal bore fory, ac mae’r crwner wedi cael gwybod.

Yn ol un tyst, Michael Morgan, roedd ci wedi cerdded i mewn i’r safle golchi ceir lle mae’n gweithio ger Parc Gwledig Erddig.

Dywedodd: “Ro’n i ar fy mhengliniau yn golchi car ac mi wnes i droi rownd ac roedd yna gi yn llyfu fy nghlust.

“Ro’n i’n credu mai strae oedd o ar y dechrau ac ro’n i am ei glymu fo i fyny. Mae wedi digwydd o’r blaen pan fydd pobol yn dod i mewn o’r parc ac yn dweud bod eu cŵn wedi rhedeg i ffwrdd.

“Ond roedd y ci hwn mewn cyflwr rhy dda i fod yn strae, roedd o mewn cyflwr hyfryd.”

Aeth Michael Morgan i mewn i’r parc a gweld tri chi arall ger car Citroën Picasso, y credir oedd yn perthyn i’r cwpl.

Mae yna adroddiadau bod lefel yr afon wedi codi 4 troedfedd mewn ychydig ddiwrnodau ers i’r glaw trwm ddechrau.