Mae tri o gyfarwyddwyr ffatri teiars wedi ymddangos yn y llys, wedi eu cyhuddo o fod yn gyfrifol am dân difrifol ar y safle.

Lledodd y tân drwy Ystad Ddiwydiannol Fforestfach yn Abertawe ar Fehefin 16, 2011 ar ôl i wastraff gael ei ollwng yn anghyfreithlon.

Mae disgwyl i Scott Phillips, Dorothy Thomas a’i gŵr Peter Thomas, a oedd yn gyfarwyddwyr cwmni Globally Greener Solutions ar y pryd, wadu’r honiadau yn eu herbyn.

Cymerodd hi dair wythnos i ddiffodd y tân, a chafodd nifer o strydoedd a heolydd eu cau wrth i’r mwg ledu ar draws y ddinas.

Mae Scott Phillips wedi ei gyhuddo o ollwng tua 5,000 tunnell o wastraff y tu fewn i’r ffatri, ac mae Dorothy a Peter Thomas wedi eu cyhuddo o ganiatáu iddo wneud hynny.

Doedd gan y cwmni ddim trwydded i ollwng y gwastraff, yn ôl yr erlynydd.

Yn ogystal â chreu oedi i deithwyr, cafodd ysgolion a busnesau eu heffeithio gan y tân a’r mwg, a’r llygredd aer a gafodd ei achosi.

Cafodd gwastraff ei ollwng ar dir ffatri gerllaw hefyd.

Bu’n rhaid i Asiantaeth yr Amgylchedd dalu £200,000 er mwyn symud y gwastraff, a bil arall gwerth £1.6 miliwn a gafodd ei dalu’n rhannol gan Gyngor Sir Abertawe.

Mae’r tri yn wynebu cyhuddiadau o achosi i wastraff gael ei ollwng heb drwydded, cadw gwastraff mewn modd a oedd yn debygol o achosi llygredd neu niwed i iechyd pobl, ac ymddwyn yn groes i ofynion trwydded amgylcheddol.

Gallai’r tri diffynnydd wynebu cyfnod yn y carchar neu ddirwy sylweddol.

Byddan nhw’n dychwelyd gerbron llys  ynadon ar Hydref 23.