Yr ail gampws
Mae ail gampws i Brifysgol Abertawe gam yn nes ar ôl i’r brifysgol sicrhau £60 miliwn gan Fanc Buddsoddi Ewrop.

Mae’r brifysgol hefyd wedi derbyn £30m gan Lywodraeth Cymru a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru tuag at godi’r ail gampws yn ardal Llansawel, i’r dwyrain o’r ddinas.

Bydd Prifysgol Abertawe hefyd yn buddsoddi yn y campws presennol ym Mharc Singleton, ac yn rhagweld bydd y datblygiadau newydd yn creu 4,000 o swyddi uniongyrchol yn ogystal â 6,000 o swyddi anuniongyrchol.

Cafodd y buddsoddiad ei gyhoeddi heddiw pan gafodd cytundeb ei arwyddo gan Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, Richard Davies, a Simon Brooks, Is-Lywydd Banc Buddsoddi Ewrop.

‘Cryn hwb i adfywiad yr ardal’

Mae disgwyl i’r campws newydd gael ei gwblhau erbyn Medi 2015 a dywedodd yr Athro Richard Davies y bydd “o fantais sylweddol i fyfyrwyr.”

“Bydd y cydweithio agos rhwng y Brifysgol a diwydiant yn gymorth i sicrhau ein bod yn cynnig y cyrsiau gradd fwyaf perthnasol a chynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr fagu sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr,” meddai Richard Davies.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fod y gwaith ehangu yn “gryn hwb i’r maes ymchwil a datblygu ac i adfywiad economaidd yr ardal.”