Carchar Caerdydd
Mae bwyty wedi cael ei agor gan garcharorion yng ngharchar Caerdydd.

Mae’r bwyty yn cynnig bwyd am brisiau rhesymol, ac mae’n cynnig y cyfle i garcharorion ddysgu sgiliau newydd.

Nod y cynllun yw paratoi carcharorion am fywyd ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau, a lleihau’r tebygolrwydd y byddan nhw’n troseddu eto.

Ar furiau’r bwyty, mae yna luniau a cherddi am fywyd yn y carchar.

Mae’r bwyty yn fenter ar y cyd rhwng y carchar, y Gwasanaeth Carchardai a’r elusen The Clink.

Dywedodd llywodraethwr y carchar, Richard Booty: “Nid bod yn neis i garcharorion na’u seboni yw hyn.

“Mae’r carchar yn ymwneud â dysgu bod yn aelodau parchus a da o’r gymdeithas.

“Rhan o’m gorchwyl yw sicrhau bod y cyhoedd yn parhau i gael ei ddiogelu ond rhan arall yw lleihau’r risg o ail-droseddu ymhlith y rhai sy’n cael eu rhyddhau.

“Fyddai’r cynllun ddim yn cael ei weithredu pe na bai deilliannau positif ar ei ddiwedd.”

‘Profiadau gwerthfawr’

Cafodd y cynllun gwreiddiol ei greu gan y cogydd adnabyddus Alberto Crisci, wedi iddo ymgymryd â chynllun tebyg yng ngharchar High Down yn Surrey yn 2009.

Mae Alberto Crisci wedi gweithio ym mwyty Mirabelle ym Mayfair yn Llundain yn y gorffennol.

Dywedodd: “Y rheswm y dechreuais i wneud y gwersi coginio yn y lle cyntaf oedd am fy mod i am roi rhywbeth yn ôl a helpu pobl.

“Ces i fy syfrdanu gan rai o ddoniau’r carcharorion ac roedd yn ymddangos fel pe bai’n wastraff doniau nad oedd yn cael eu defnyddio.

“Felly, roedd sefydlu bwyty a system lle byddai carcharorion yn ennill cymwysterau a phrofiadau gwerthfawr yn ymddangos fel y cam synhwyrol nesaf.”

Cynnyrch lleol

Mae’r bwytai newydd yn costio £500,000 y flwyddyn.

Ond mae llai na 30% o bobl sydd wedi helpu’r fath fentrau yn y gorffennol wedi ail-droseddu.

Mae tua 30 o garcharorion o’r Prescoed yn gweithio yno, ac maen nhw’n derbyn tâl o £14 am 40 awr o waith.

Rhaid bod gan garcharorion rhwng chwech a 18 mis ar ôl o’u dedfryd er mwyn cymryd rhan yn y cynllun.

Hefyd, rhaid eu bod wedi ceisio mynd i’r afael â dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau, neu gymryd rhan mewn rhaglen rheoli tymer cyn y gallant weithio yn y bwyty.

Does gan droseddwyr rhyw ddim hawl i weithio yno.

Mae’r bwyd yn cael ei gynhyrchu yn y carchar, a’r cig yn dod o fferm y carchar.

Mae’r celfi wedi cael eu gwneud o bren sydd ar safle’r carchar hefyd.

Dywedodd Gweinidog Carchardai Llywodraeth Prydain, Jeremy Wright: “Rydyn ni am weld carcharorion yn cael eu trin yn deg ac nid yn mwynhau moethusrwydd.

“Yn ogystal â disgwyl i garcharorion golli eu rhyddid, mae pobl hefyd yn disgwyl y byddan nhw’n newid  heb droi’n ôl.”