Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhuddo dyn o geisio llofruddio dyn arall ac o anafu dynes yn ddifrifol ar fuarth gorsaf betrol yn Llanfairpwll, Ynys Môn.
Bydd Keith Williams, 55, yn ymddangos gerbron Ynadon Caergybi heddiw yn dilyn digwyddiad yng ngorsaf betrol Ty’n Lôn yn hwyr nos Fawrth.
Cafodd dyn a dynes y eu 50au eu trywanu yn y digwyddiad. Bu’n rhaid i’r dyn gael triniaeth frys yn Ysbyty Gwynedd yn dilyn y digwyddiad ond mae bellach mewn cyflwr sefydlog. Cafodd y ddynes driniaeth yn yr ysbyty a’i rhyddhau’n ddiweddarach.