Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau i nodi Diwrnod Cenedlaethol Roald Dahl heddiw.

Mae’r dathliadau eleni –  y seithfed diwrnod i ddathlu’r awdur o Gaerdydd – yn canolbwyntio ar ddau o’i lyfrau mwyaf poblogaidd, James and the Giant Peach a The BFG, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 30 oed eleni.

Cafodd gweithdai eu cynnal yn yr amgueddfa y penwythnos diwethaf, lle cafodd teuluoedd y cyfle i greu gweithiau celf yn seiliedig ar lyfrau’r awdur.

Roedd yna arddangosfa hefyd, oedd yn cynnwys peiriant i greu cymysgeddau rhyfeddol o foddion, fel y mae’r cymeriad  George yn ei wneud yn George’s Marvellous Medicine.

Roedd rhai o’r ffilmiau sy’n seiliedig ar straeon Roald Dahl hefyd wedi cael eu dangos.

Cyn y digwyddiad, dywedodd Swyddog Digwyddiadau Amgueddfa’r Glannau, Miranda Berry: “Rydym am i gymaint o deuluoedd â phosib gymryd rhan yn y gweithgareddau eleni i nodi Diwrnod Roald Dahl.

“Bydd yn gyfle i fod yn greadigol, yn ogystal ag i ddysgu mwy am y straeon. Mae’n addo bod yn ddiwrnod llawn hwyl ac yn sicr o danio dychymyg ymwelwyr o bob oedran!”